Mae Aquafix yn fusnes teuluol lleol sy'n cynnig gwasanaethau trin dŵr i gwsmeriaid amaethyddol, masnachol a domestig, a hynny ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru yn bennaf. Mae ein swyddfa a'n gweithdy wedi'u lleoli yn Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr, ac yn ganolog i Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Yn Aquafix, rydym yn hapus i gynnig cyngor cyfeillgar a phroffesiynol ynghylch eich holl anghenion o ran trin dŵr. Mae ein busnes yn seiliedig ar enw da am ddarparu cyngor ac arbenigedd cadarn a gonest.
Nod Aquafix yw cynnig cynhyrchion a gwasanaethau o'r ansawdd gorau am bris cystadleuol. Mae gan beirianwyr Aquafix gymwysterau academaidd ffurfiol, ond maent hefyd yn gallu cynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol a feithrinwyd yn ystod bron 16 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant.
Gallwn gynnig cyngor ac argymhellion technegol i gynllunio system wedi'i theilwra i'ch gofynion penodol. Ffoniwch ni i drafod ymhellach.
Yn dathlu 10 mlynedd yn y busnes (2005-2015)