Beth bynnag y mae arnoch ei angen, rydym yn sicr y gallwn gynnig ateb addas.
Gwasanaeth ymateb i alwadau 24/7
Ydy, mae hynny'n gywir. Gall Aquafix warantu bod yna beiriannydd ar ben arall y llinell ffôn, a hynny 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Ni allwn warantu bob amser pa mor gyflym y byddwn yn cyrraedd, ond rydym yn ymdrechu bob tro i gael un o'n peirianwyr teithiol i ymateb i'ch sefyllfa frys cyn gynted ag y gall. Galwadau brys yw ein blaenoriaeth bob amser. Os bydd eich pwmp yn ddiffygiol, bydd ein tîm ymateb cyflym yn tynnu'r pwmp tanddwr ar fyrder ac yn sicrhau bod eich twll turio ar waith unwaith eto heb fawr ddim amser segur.
Codir tâl am amser teithio a milltiredd y peirianwyr.
Gwasanaeth Danfon Rhannau
Yma yn Aquafix cedwir amrywiaeth eang o bympiau a rhannau mewn stoc, ac maent ar gael trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn achos argyfwng. Mae'r stoc yn cynnwys bylbiau a hidlyddion uwchfioled, llewys cwarts, cetris hidlo, cyfryngau hidlo, pympiau atgyfnerthu, meddalyddion dŵr, pympiau ar gyfer tyllau turio, ac ystod eang o gyfarpar a darnau sbâr eraill ar gyfer eich cyflenwad dŵr preifat.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon ar gyfer unrhyw rannau neu ddefnyddiau y gallai fod arnoch eu hangen, a hynny cyn gynted â phosibl.