Yn y cartref
Dŵr yfed
Mae Aquafix yn cynnig gwasanaeth cyflawn i gwsmeriaid preswyl, gan gludo'r dŵr o'i ffynhonnell naturiol i'w leoliad terfynol. Mae'r pecyn llawn yn cynnwys drilio twll turio, gosod system bwmpio, dadansoddi'r dŵr a chyflenwi'r dŵr i'r annedd/tŷ at ddefnydd domestig.
Unedau trin dŵr
Mae hidlo, sy'n ennill ei blwyf yn gyflym, yn brif ddewis i lawer o gartrefi. Rydym yn cynnig amrywiaeth o hidlyddion ar gyfer pwyseddau gwahanol, systemau llif disgyrchiant sy'n ddibynnol ar bwysedd y dŵr, a setiau atgyfnerthu pwysedd. Mae'r hidlyddion sydd ar gael yn cynnwys rhai uwchfioled ar gyfer bacteria, unedau unioni lefelau pH, hidlyddion tynnu gwaddodion, calchgen, nitradau, haearn a manganîs, a phlwm, unedau osmosis gwrthdro, yn ogystal â systemau diwydiannol.
Carthion
Os ydych yn chwilio am gwmni annibynnol lleol i gyflenwi, gosod neu gynnal a chadw cyfarpar carthion neu ddŵr gwastraff, yna ffoniwch ni. Rydym yn cynnig atebion syml a dibynadwy ar gyfer trin carthion, sy'n cydymffurfio â'r safonau Prydeinig diweddaraf a rheoliadau adeiladau diweddaraf y DU.
Mae ein systemau pwmpio yn amrywio o bympiau llifddwr bach ar gyfer seleri, i siambrau carthion aml-bwmp ar gyfer meysydd carafannau neu ddatblygiadau tai. Mae ein peirianwyr wrth law i helpu i gadw'r pwmp yn gweithio mewn modd dibynadwy, neu os bydd yna fethiant brys. Gyda'n peirianwyr effeithlon a'n cyfraddau llafur hynod o resymol, rydym yn cynnig gwasanaeth heb ei ail i gwsmeriaid yn Sir Gaerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos.