Arbenigwyr mewn Systemau Dŵr Glân a Brwnt a Thrydan Amaethyddol

Atgyweirio, Cynnal a Chadw a Rhoi Gwasanaeth

Atgyweirio ac Adnewyddu

Rydym yn cynnig gwasanaeth galwadau brys 24/7 i'n holl gwsmeriaid. Felly, os nad oes gennych ddŵr neu os yw eich system carthion yn ddiffygiol, rydym yma i'ch helpu.
Rydym yn cadw amrywiaeth o ddarnau sbâr a darnau newydd mewn stoc i gael eich system yn weithredol cyn gynted â phosibl.

Cynnal a Chadw a Rhoi Gwasanaeth

A ydych yn pryderu am gyflwr eich system dŵr brwnt?
Gall gwasanaeth blynyddol dynnu sylw at unrhyw broblemau posibl, gan leihau'r risg o lygredd, yn ogystal ag ymestyn oes y system. Gall tyllau turio ddarparu blynyddoedd lawer o wasanaeth di-ball; fodd bynnag, gall darnau dreulio dros amser ac weithiau bydd yn ofynnol eu hadnewyddu. Rydym yn eich cynghori i roi gwasanaeth rheolaidd i'ch system i sicrhau bod eich cyflenwad dŵr annibynnol yn rhedeg yn llyfn ac yn ddidrafferth. Ffoniwch ni i drefnu gwasanaeth i'ch system.
Os byddwch yn sylwi nad yw eich twll turio yn darparu cymaint o ddŵr ag a wnâi pan oedd yn newydd, neu fod cost pwmpio'r dŵr o'r twll turio yn cynyddu, mae'n debyg bod angen adnewyddu eich twll turio.
Pan fydd dŵr yn teithio trwy'r ddyfrhaen i'r pwmp, gall gynnwys gwaddodion mân a mwynau wedi hydoddi, a fydd, yn y pen draw, yn cronni ac yn blocio'r sgrin. Bydd Bacteria Haearn naturiol, os ydynt yn bresennol, yn atal mewnlif y dŵr yn y pen draw. Gallai eich pwmp tanddwr fod wedi treulio.
Gall peirianwyr Aquafix ymchwilio i'r broblem ac argymell ateb. Gallai hyn olygu triniaeth gemegol, sgwrio ochrau'r twll turio, neu gallai fod mor syml ag ailosod pwmp sydd wedi treulio.
Yn Aquafix mae gennym ein gweithdy atgyweirio mewnol ein hunain, lle gallwn gyflawni'r gwaith o adnewyddu pympiau presennol ac unrhyw dasgau eraill sy'n angenrheidiol.
Aquafix

Cysylltwch â ni

Rhif Ffôn Symudol: 07814 027045
Rhif Ffôn Symudol: 07976 467 472
Website by w3designs.co.uk
menu-circle