Amaethyddiaeth
Yn Aquafix, rydym yn cynnig gwasanaeth arbenigol i ffermydd o bob math a maint. Mae Gareth a Meredith, a hwythau'n feibion fferm lleol, yn deall yn iawn y gofynion a'r pwysau sydd ar ffermydd modern, a dyna pam y mae gwasanaeth ymateb i alwadau 24/7 ar gael. Mae hyn wedi bod yn hanfodol i lawer o'n cwsmeriaid ym maes amaethyddiaeth.
Golchi Llaethdai a Pharlyrau Godro
Mae ein hystod o bympiau dŵr gan wneuthurwyr blaenllaw yn cynnwys ESPA, Grundfos, DAB a Lowara, a gellir dod o hyd iddynt yn gweithio'n galed ar gannoedd o ffermydd yr ardal. O bibelli ar gyfer golchi parlyrau a chlosydd casglu, i ddarparu systemau plat-oeri a chafnau yfed mewn modd effeithiol, mae gennym bympiau sy'n addas i'r diben.
Trin Dŵr Brwnt
Rydym wedi bod yn cynllunio, yn gosod ac yn cynnal a chadw systemau elifion ffermydd ers blynyddoedd lawer. Mae gennym ystod enfawr o bympiau a darnau sbâr mewn stoc, a gellir cwblhau atgyweiriadau yn ddi-oed, fel arfer. Rydym yn dosbarthu cynhyrchion dibynadwy a phrofedig, gan gynnwys pympiau Mono a Briggs Roto Rainers.
Pympiau
Rydym yn cadw amrywiaeth o bympiau newydd mewn stoc, ar gyfer dŵr glân a brwnt. Mae'r pympiau canlynol gennym mewn stoc: ESPA, DAB, Grundfos, Lowara, Mono a TT. Ffoniwch ni i drafod y pwmp mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion.
Drilio Tyllau Turio
Mae dichonoldeb cyflenwad dŵr o dwll turio preifat yn dibynnu ar lawer o ffactorau daearegol a hydroddaearegol, ynghyd ag ar ansawdd y dŵr.
Ar eich cais, gallwn roi amcangyfrif o gost twll turio ar sail ein profiad helaeth a chofnodion daearegol manwl (efallai y bydd angen adroddiad prognosis dŵr manwl gan hydroddaeregwr mewn rhai ardaloedd, y gallwn ei drefnu am gost).
Rydym yn hapus i roi amcanbris a chynllunio a nodi systemau ar gyfer eich anghenion penodol.
Wrth i gost dŵr o'r prif gyflenwad godi, bydd eich cyflenwad eich hun yn dod yn ased cynyddol mewn dim o dro. Mae llawer o'n systemau dŵr wedi talu amdanynt eu hunain yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl eu gosod!
Systemau Trin Dŵr
Yn aml, bydd angen trin dŵr daear a ddaw o dyllau turio er mwyn iddo fod yn addas i'w yfed. Bydd Aquafix yn gallu rhoi cyngor ar gyfarpar trin a fydd yn gweddu i'r rhan fwyaf o ofynion, gan ei gyflenwi a'i osod.
Gosodiadau trydanol
Gall Aquafix hefyd gynnig gwasanaethau trydanol amaethyddol o bob math, er enghraifft gwaith gwifrio siediau.
Cynaeafu Dŵr Glaw
Gallwn hefyd osod tanciau i gynaeafu dŵr glaw at ddefnydd systemau golchi ac i ddyfrhau'r ardd. Mae croeso i chi holi am y gwasanaeth hwn.